Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar berfformio arloesol i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, cynllunwyr golygfeydd a rheolwyr yn y celfyddydau mwyaf dawnus o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd a bydd yn cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad tirnod trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barc dinesig godidog sydd ond taith 5 munud ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da wedi’i sefydlu ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau oll.
Gyda hanes nodedig o 70 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys cael ei raddio’n ysgol ddrama orau’r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian nifer o weithiau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg, dros y degawd diwethaf, wedi sefydlu ei hun fel sefydliad diwylliannol pwysig yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â diwydiant, a rhaglen fywiog o ddigwyddiadau. Mae’r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol yn y diwydiant.
Rydym yn fan cynhwysol i bawb a chymuned sy’n ffynnu ar barch a dathlu gwahaniaethau. Mae ein henw da wedi’i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein cyflogeion i ddatblygu’r lefel uchaf o ddoniau a sgiliau. Rydym yn chwilio am ymarferydd profiadol a llwyddiannus i ddarparu Cymorth Astudio Un i Un Arbenigol i fyfyrwyr niwroamrywiol ac anabl ar draws yr holl raglenni gradd cerddoriaeth a drama sy’n derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster/gymwysterau addysgu arbenigol, a bydd yn aelod o gorff proffesiynol priodol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio’n annibynnol, cadw dan reolaeth, meddwl yn glir, a gweithredu’n bendant mewn sefyllfaoedd anodd; bydd ganddo/ganddi hefyd agwedd ‘gallaf wneud’ a rhagweithiol, tra’n gweithio o fewn deddfwriaeth cyfrinachedd a gyda disgresiwn. Bydd gan yr ymgeisydd sgiliau trefnu gwych, sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, a sgiliau TG ardderchog. Bydd ganddo/ganddi hefyd brofiad amlwg o ddefnyddio technoleg gynorthwyol.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac o bell oherwydd Covid-19, bydd y rôl hon yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich amrediad o sgiliau fel ymarferydd anabledd arbenigol. Mae hon yn rôl barhaol, ran-amser. Bydd gofyn i chi weithio 18.5 awr yr wythnos am 35 wythnos * y flwyddyn. Ar gyfartaledd bydd 13 awr o ddysgu bob wythnos.
* amser tymor academaidd yn unig
Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac rydym yn gweithredu system weithio hyblyg.
Os ydych yn ymgeisydd allanol llwyddiannus ar gyfer y swydd hon, fe’ch cyflogir gan Wasanaethau Proffesiynol a Chefnogaeth Cyfyngedig, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd mewnol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan eich Cyflogwr Grŵp Prifysgol De Cymru presennol. I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Kate Williams yn StudentServices@rwcmd.ac.uk.
Dyddiad cyfweliad: TBC