Y rôl:
Mae Conservatoire Cenedlaethol Cymru yn chwilio am unigolyn deinamig a phrofiadol i arwain gweithrediad strategaeth ymchwil y Coleg a’i heffaith ym maes Drama, ac i gynnig/datblygu arloesedd cysylltiedig o fewn cyrsiau presennol a thrwy gyrsiau newydd fel y bo’n briodol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain gweithrediad strategaeth ymchwil, adrodd i’r Prifathro a gweithio’n agos gyda’i gymheiriad ym maes Cerddoriaeth ac aelodau’r Pwyllgor Ymchwil, a goruchwylio a chyflwyno prosiectau a gweithgareddau ymchwil, hyfforddiant a digwyddiadau ymchwil, a datblygiadau perthnasol yn y cwricwlwm, ac felly cyfrannu at natur gyfredol a safle blaenllaw’r Coleg fel conservatoire.
Bydd gan ddeiliad y swydd hanes profedig y gellir ei gadarnhau o ymchwil ac addysgu ymchwil ym maes Drama, gyda gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil seiliedig ar ymarfer ac ymchwil a arweinir gan ymarfer yn y maes, a bydd ganddo/ganddi sgiliau i weithio gyda chyfarwyddwyr, actorion, ymarferwyr theatr gerddorol, cynllunwyr, rheolwyr llwyfan, rheolwyr yn y celfyddydau ac athrawon mewn lleoliad conservatoire.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyrwyddwyr cryf dros addysg conservatoire a bod yn barod i weithio ar y cyd â holl gydweithwyr CBCDC a phartneriaid proffesiynol i alluogi a hyrwyddo enw da sefydliadol am addysg broffesiynol arloesol a throchol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn y camau cynnar o wreiddio amgylchedd ymchwil strwythuredig yn y sefydliad, croesawu newid cwricwlwm gan gynnwys datblygu rhaglen ddoethuriaeth, yn ogystal â chydweithrediadau ymchwil allanol ac ymchwil staff. Er bod llawer o weithgarwch ymchwil wedi digwydd yn ymhlyg o fewn ymarfer yn y Coleg dros y degawdau diwethaf, dim ond ers cyflwyniad llawn cyntaf i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021 y datblygwyd strategaeth ymchwil benodol gyda chynllun gweithredu. Felly, mae’r penodiad hwn, ochr yn ochr ag un tebyg ym maes Cerddoriaeth, yn drobwynt hollbwysig wrth sefydlu diwylliant ymchwil cynaliadwy a thrylwyr sy’n chwarae rhan hanfodol yn esblygiad ymarfer proffesiynol ac sy’n cyfrannu at arloesi ar gyfer y diwydiannau Cerddoriaeth a Theatr.
Ynglŷn â’r Coleg:
Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â’r diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae CBCDC yn chwilio am unigolyn egnïol a phrofiadol o’r radd flaenaf i wneud cyfraniad mawr i ddyfodol y Coleg.
Mae’r swydd hon yn rôl ffracsiynol 0.4 am dymor penodol. Yr oriau gwaith yw’r rheini sy’n ofynnol i gyflawni anghenion y swydd. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol a gwyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Helena Gaunt (Prifathro)
[email protected]