Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am benodi unigolyn llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm o Gynorthwywyr Lleoliadau i gyflawni gwahanol dasgau Blaen Tŷ a darparu cymorth diogelwch ar gyfer staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â’r Coleg. Rhaid bod gennych agwedd hyblyg at waith, profiad gwaith diweddar mewn amgylchedd perthnasol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, bydd y rôl hon yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio eich ystod o sgiliau cwsmeriaid, cyfathrebu ac aml-dasgio mewn amgylchedd addysgol prysur.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar berfformio arloesol i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, cynllunwyr golygfeydd a rheolwyr yn y celfyddydau mwyaf dawnus o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd a bydd yn cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad tirnod trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barc dinesig godidog sydd ond taith 5 munud ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da wedi’i sefydlu ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau oll.
Gyda hanes nodedig o 70 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys cael ei raddio’n ysgol ddrama orau’r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian nifer o weithiau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg, dros y degawd diwethaf, wedi sefydlu ei hun yn sefydliad diwylliannol pwysig yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â diwydiant, a rhaglen brysur o ddigwyddiadau. Mae’r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol yn y diwydiant.
Mae ein henw da wedi’i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein gweithwyr i ddatblygu’r lefel uchaf o ddoniau a sgiliau. Rydym yn fan cynhwysol i bawb ac yn gymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu amrywiaeth. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol o gymdeithas. Mae pobl o gymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd, y rheini sy’n uniaethu’n anabl ac unigolion niwrowahanol a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Swydd barhaol llawn amser yw hon.
Rydym yn cynnig nifer o fuddiannau i weithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac rydym yn gweithredu system weithio hyblyg.
Os ydych yn ymgeisydd allanol llwyddiannus ar gyfer y swydd hon, fe’ch cyflogir gan Wasanaethau Proffesiynol a Chefnogaeth Cyfyngedig, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd mewnol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â Daniel Gardiner – 02920391404 neu e-bostiwch Daniel.Gardiner@rwcmd.ac.uk