Y rôl:
Mae Conservatoire Cenedlaethol Cymru yn chwilio am unigolyn deinamig a phrofiadol i roi arweiniad wrth gynllunio,addysgu ac asesu Llais, Lleferydd a Thestun ar draws ystod o fodiwlau yn yr adrannau Actio a Theatr Gerddorol, gangyfrannu at natur gyfredol a rhagorol y cwricwlwm.Bydd gan ddeiliad y swydd hanes profedig y gellir ei gadarnhau o weithio fel hyfforddwr llais, testun a thafodiaithgyda pherfformwyr ar gyfer ystod o wahanol gyfryngau ac mewn cyd-destun hyfforddiant proffesiynol a/neuddrama. Bydd angen iddo/iddi fod yn eiriolwyr angerddol dros addysg conservatoire ac yn barod i weithio ar y cydâ holl gydweithwyr CBCDC a phartneriaid proffesiynol er mwyn galluogi a hyrwyddo enw da yn y sefydliad am addysgbroffesiynol arloesol a throchol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama.
Mae’r Adran Actio yn cwmpasu cyrsiau gradd ac ôl-radd mewn Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Radio a TheatrGerddorol. Dros y 15 mlynedd diwethaf mae’r adran wedi datblygu i fod yn un o brif ddarparwyr hyfforddiantActio yn y DU. Gyda phenodiad Jonathan Munby yn 2020, yn arwain y rhaglen Actio fel Cyfarwyddwr Perfformio aChyfarwyddwr Artistig Cwmni Richard Burton (cwmni theatr â ffocws proffesiynol CBCDC), mae’r Coleg yn bwriaduehangu’r cyrsiau y mae’n eu cynnig, sefydlu partneriaethau mwy ystyrlon ar draws y DU a datblygu ei enw darhyngwladol ymhellach.
Ynglŷn â’r Coleg:
Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yntanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr,technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyrgydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â’r diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais achydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai oleoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglenperfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr.
Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marcyn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnigamrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eutangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae CBCDC yn chwilio am unigolyn egnïol, profiadol o’r radd flaenaf, i wneudcyfraniad sylweddol i ddyfodol y Coleg.
Mae hon yn rôl llawn amser a pharhaol.
Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac rydym yn gweithredusystem weithio hyblyg.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Jonathan Munby (Cyfarwyddwr Perfformio – Drama)Jonathan.munby@rwcmd.ac.uk