Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl, Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau gweithle. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn chwilio am Swyddog Ansawdd, Hyfforddiant ac Arholi er mwyn sicrhau ansawdd yr addysgu a'r dysgu o fewn Dysgu Cymraeg Morgannwg, un o 11 darparwyr Cymraeg i Oedolion o dan goruchwyliaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cynhelir y dosbarthiadau mewn lleoliadau amrywiol ac ar draws rhanbarth Pen-b-ont, Rhondda Cynon Taf a Merthyr ond yn sgil Covid 19, darperir gwersi ar lein ar hyn o bryd.