Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl, Cymraeg i’r Teulu a chyrsiau gweithle. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn chwilio am diwtoriaid i ddysgu gyda’r nos yn bennaf, ac i ymuno â thîm o diwtoriaid talentog a brwdfrydig. Cynhelir y dosbarthiadau mewn lleoliadau amrywiol ar draws rhanbarth Penybont, RhCT a Merthyr ond darperir y rhan fwyaf o’r gwersi ar lein ar hyn o bryd.
Disgwylir i ddeiliaid y swydd weithio’n drefnus, meddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau technoleg gwybodaeth effeithiol a meddu ar gymhwyster dysgu neu gymhwyso o fewn 2 flynedd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â catherine.stephens@decymru.ac.uk
Mae'r brifysgol yn gweithredu model gweithio hybrid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y campws am ran o'r wythnos.
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau. Os ydych chi'n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch chi'n parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.