Mae ein cydweithwyr lletygarwch yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru acrydym am benodi Goruchwylydd Bar i ymuno â’n tîm.Mae ein Goruchwylydd Bar yn sicrhau bod safonau gweithredu yn cael eu cynnal a bod timau bach yn cael eugoruchwylio i ddarparu gwasanaeth bar effeithlon ac o ansawdd uchel yn ystod amrywiaeth cyffrous oddigwyddiadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys perfformiadau, seremonïau graddio, derbyniadau VIP,priodasau, sesiynau ffilmio, ymweliadau brenhinol, digwyddiadau ciniawa a chynadleddau. Mae sicrhau boddisgwyliadau cwsmeriaid a safonau gweithredu yn cael eu diwallu gan ein tîm bar yn ganolog i lwyddiant y rhain.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn fan i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl obob cefndir a phrofiad. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoirecenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 oactorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau aphotensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â diwydiant, i wireddubreuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai oleoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglenperfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr. Rydym ynmeithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn ydiwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol o gymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedauethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eutangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Mae hon yn rôl llawn amser barhaol, yn gweithio 37 awr yr wythnos. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeiongan gynnwys cynllun pensiwn ardderchog, hawl gwyliau blynyddol hael. Rydym yn gweithredu system weithiohyblyg ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer goramser. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.
Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol(neu os ydych yn cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), fe’ch cyflogir gan Professional and Support ServicesLimited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol aCholegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru,byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Neil Piper, neil.piper@rwcmd.ac.uk