Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar berfformio arloesol i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, cynllunwyr golygfeydd a rheolwyr yn y celfyddydau mwyaf dawnus o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd a bydd yn cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad tirnod trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barc dinesig godidog sydd ond taith 5 munud ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da wedi’i sefydlu ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau oll.
Gyda hanes nodedig o 70 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys cael ei raddio’n ysgol ddrama orau’r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian nifer o weithiau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg, dros y degawd diwethaf, wedi sefydlu ei hun yn sefydliad diwylliannol pwysig yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â diwydiant, a rhaglen brysur o ddigwyddiadau. Mae’r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol yn y diwydiant.
Mae ein henw da wedi’i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein gweithwyr i ddatblygu’r lefel uchaf o ddoniau a sgiliau. Rydym yn fan cynhwysol i bawb ac yn gymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu amrywiaeth. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol o gymdeithas. Mae pobl o gymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd, y rheini sy’n uniaethu’n anabl ac unigolion niwrowahanol a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd eithriadol i ddarparu gwasanaeth Adnoddau Dynol (“AD”) cynhwysfawr i’r Coleg, gan gynnwys darparu cyngor a chefnogaeth i Reolwyr a Chydweithwyr ac ymgymryd ag ystod o waith AD gweithrediadol a gweithio’n agos gyda’r adran cyflogres. Yn y rôl hon mae rhoi sylw i fanylder yn hanfodol, fel ag y mae’r gallu i amldasgio, felly os ydych yn unigolyn trefnus, sy’n talu sylw i fanylder, gyda’r gallu i reoli eich amser yn effeithiol, bod gennych agwedd broffesiynol, yn meddu ar sgiliau dadansoddol da ac yn chwaraewr tîm, chi yw’r person rydym yn chwilio amdano/amdani.
Rydym yn cynnig nifer o fuddiannau i weithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol, isafswm o 22 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc) ac yn gweithredu system weithio hyblyg. Mae’r rhan fwyaf o’n gweithwyr gwasanaethau proffesiynol a gweinyddol erbyn hyn yn dilyn patrwm gweithio ystwyth - gan weithio gartref am beth o’r amser ac yn y Coleg am y gweddill.
Mae hon yn swydd barhaol, llawn amser yn gweithio 37 awr yr wythnos.
I gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y swydd hon cysylltwch â mark.davies@rwcmd.ac.uk
Dyddiadau cyfweld: 10/11/2021 & 11/11/2021