Y Rôl:
Mae Conservatoire Cenedlaethol Cymru yn chwilio am gerddor egnïol a phrofiadol i roi arweiniad ym maes Astudiaethau Telyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gofalu am, ac yn datblygu, amgylchedd hyfforddiant cynaliadwy a llwyddiannus sy’n cynnig i fyfyrwyr gyfleoedd i feithrin perfformio unawdol, cydweithio artistig ac, yn y man, ddatblygiad pellach at fod yn gerddorion cyfrifol, arloesol a hael eu cyfraniad I gymdeithas.
Bydd y person penodedig yn ffigwr blaenllaw yn y gymuned telyn rhyngwladol a chyda’r awydd i archwilio potensial ac amrywioldeb yr offeryn yn rhyngwladol tra’n deall pwysigrwydd y Delyn fel offeryn cenedlaethol Cymru. Bydd rhaid i’r person penodedig fod yn hyrwyddwr brwdfrydig dros addysg conservatoire a bod yn barod gyda chydweithwyr eraill i ysgwyddo cyfrifoldebau tra’n hyrwyddo a meithrin new da a blaengarwch ym meysydd cerdd a drama.
Gwybodaeth am y Coleg:
Mae’r Coleg yn denu talent creadigol gorau’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru ’rydym yn sbarduno ac ysgogi dyfeisgarwch ac agwedd arloesol, ac yn cynnig hyfforddiant i bron i 1000 o gerddorion, actorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau, a hynny o fwy na 30 gwlad. Mae talent arbennig a photensial ein myfyrwyr ynghlwm â hyfforddiant eithriadol o dda a chysylltiadau heb eu hail gyda’r diwydiant celfyddydol, a hynny er mwyn gwireddu breuddwydion. Mae uchelgais
creadigol a gweithio ar y cyd yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Mae ein myfyrwyr wedi eu trwytho mewn amgylchfyd bywiog o’u munudau cyntaf yn y Coleg. Gan bod rhai o leoliadau a mannau perfformio enwocaf Cymru yma, gall y Coleg gynnig cartref i ganolfan celfyddydol deinamig, ac mae’r rhaglen o berfformiadau gan artistiaid proffesiynol byd-enwog yn bwysig i’r hyfforddiant cyfunol a gynigir i’r myfyrwyr.
Meithrinir artistiaid proffesiynol y dyfodol fel y gall ein myfyrwyr oresgyn rhwystrau a gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol gan anelu at yrfa ddisglair. Dyma fan cychwyn eu llwyddiant i’r dyfodol.
’Rydym wedi ymroddi i greu gweithle sy’n adlewyrchiad o gymdeithas. Ar hyn o bryd mae unigolion o gymunedau ethnig, rhai sy’n ystyried eu hunain yn anabl neu’n niwro-anrywiaethol neu’n drawsrywiol heb gynrychiolaeth ddigonol, ac felly ’rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Swydd rôl barhaol rhan amser 0.2 FTE yw hon.
Cynigiwn sawl budd-dâl gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch, os gwelwch y dda, gyda Tim Rhys Evans (Cyfarwyddwr Perfformio, Cerddoriaeth) – tim.rhys-evans@rwcmd.ac.uk
Dyddiad cyfweliad 07/07/2022