Rydym yn awyddus i benodi Ymgynghorydd Iechyd Meddwl Cynorthwyol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r Rheolwr Cymorth i Fyfyrwyr drwy ddarparu cymorth un-i-un i fyfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl, gan hwyluso eu mynediad, eu hastudiaethau a sicrhau eu bod yn graddio'n llwyddiannus. Byddant hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith staff a myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a byddant yn darparu cymorth i staff sy’n gweithio’n agos gyda myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl.
Bydd angen i ymgeiswyr gael cymhwyster Addysg Uwch, cymhwyster proffesiynol perthnasol, a phrofiad perthnasol sylweddol fel ymarferydd iechyd meddwl proffesiynol, mewn lleoliad addysg neu gymunedol. Mae’n rhaid cael dealltwriaeth o'r anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr â chyflyrau iechyd meddwl mewn cyd-destun Addysg Uwch.
Mae’r Coleg yn lle i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiadau bywyd. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob cwr o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr celfyddydau o fwy na 30 o wledydd. Mae doniau a photensial aruthrol ein myfyrwyr, ac addysgu rhagorol a chysylltiadau annhebyg yn y diwydiant, yn dod ynghyd er mwyn gwireddu breuddwydion. Mae uchelgeisiau creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Mae ein myfyrwyr yn ymgolli mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Mae’r Coleg yn gartref i rai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, mae’n rhedeg canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen o berfformiadau a’n gweithwyr proffesiynol o safon fyd-eang yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel y gallant wthio ffiniau newydd, gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, a mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’r Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru sydd ganddo, a bydd y Coleg yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Y nifer o oriau a ragwelir fydd diwrnod arferol (7.5 awr), yn darparu gwasanaeth swyddfa ar gyfer yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, ynghyd â rhwng 16 ac 20 awr yr wythnos o gymorth 1:1 i fyfyrwyr. Bydd yn ddyletswydd ar yr aelod o staff i drefnu apwyntiadau gyda'r myfyrwyr a neilltuwyd iddynt, a sicrhau eu bod yn parhau i gymryd rhan weithredol. Rydym yn cynnig hyblygrwydd o ran diwrnodau gwaith.
Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl gwyliau blynyddol hael. Rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio gyda ni.
Os ydych chi’n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych chi’n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Kate Williams drwy anfon e-bost i StudentService@rwcmd.ac.uk