Mae CBCDC yn chwilio am Ddarlithydd Llais newydd i gynorthwyo’r Pennaeth Llais i drefnu ac addysgu astudiaethau llais a gwaith testun ar draws pob lefel o’i raglenni actio a theatr gerddorol. Byddwch yn ymuno â thîm profiadol o feddylwyr blaengar sy’n rhoi pwyslais mawr ar fyfyrwyr yn symud ymlaen yn llwyddiannus i gyflogaeth. Bydd ymarferwyr sydd ag ymroddiad ac angerdd ar gyfer addysgu yn canfod amgylchedd gweithio cydweithredol sy’n gosod myfyrwyr yng nghanol ei arfer.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar berfformio arloesol i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, cynllunwyr golygfeydd a rheolwyr yn y celfyddydau mwyaf dawnus o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd a bydd yn cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad tirnod trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barc dinesig godidog sydd ond taith 5 munud ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da wedi’i sefydlu ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau oll.
Gyda hanes nodedig o 70 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys cael ei raddio’n ysgol ddrama orau’r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian nifer o weithiau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg, dros y degawd diwethaf, wedi sefydlu ei hun yn sefydliad diwylliannol pwysig yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â diwydiant, a rhaglen brysur o ddigwyddiadau. Mae’r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol yn y diwydiant.
Mae ein henw da wedi’i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein cyflogeion i ddatblygu’r lefel uchaf o ddoniau a sgiliau mewn man sy’n gynhwysol i bawb ac o fewn cymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu amrywiaeth. Tanategir ein hamgylchedd gweithio, ein diwylliant a’n gwerthoedd drwy ganolbwyntio ar ein strategaethau a’n cynllun gweithredu a gytunwyd ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan gwmpasu’n gynhwysfawr recriwtio myfyrwyr a staff, cwricwlwm ac addysgeg, rhaglennu creadigol a sut rydym yn ymgysylltu’n rhagweithiol i feithrin perthynas â chymunedau amrywiol yn lleol, leded Cymru ac yn rhyngwladol.
Mae’r Adran Actio, a arweinir gan y Cyfarwyddwr Perfformio (Drama) Jonathan Munby, yn cwmpasu cyrsiau gradd ac ôl-radd ym meysydd Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrin a Radio a Theatr Gerddorol. Mae gan ei hyfforddiant enw da sy’n flaenllaw yn y diwydiant ac sy’n cyflogi gweithwyr proffesiynol uchel eu parch i gynhyrchu gwaith ar gyfer y meysydd sain, sgrin neu lwyfan sy’n uniongyrchol berthnasol i’r diwydiant a’r byd y mae ynddo.
Swydd llawn amser barhaol yw hon.
Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac rydym yn gweithredu system weithio hyblyg.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Simon Reeves (Pennaeth Llais) simon.reeves@rwcmd.ac.uk