Mae’r rôl newydd gyffrous hon yn cefnogi trawsnewidiad yn null y Coleg ar gyfer defnyddio data, dadansoddi a rhoi mewnwelediad. Mae’r Arweinydd Data yn llywio dull rhagweithiol er mwyn helpu’r Coleg i wneud defnydd llawn o’r data sydd ar gael i gyflawni ei amcanion strategol, gan arloesi ac ysbrydoli. Byddwch yn cefnogi meysydd allweddol gan gynnwys blaenoriaethau megis recriwtio myfyrwyr ac adrodd corfforaethol. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill i gyflwyno gweledigaeth a strategaeth y Coleg drwy gydweithio.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae’r Arweinydd Data yn rhan o’r tîm Gweinyddu Academaidd, ac yn gweithio’n agos gyda’r adran Materion Allanol fel adnodd a rennir. Mae’r rôl yn cynnwys darparu ystod eang o fewnwelediad a dadansoddiad, gan weithio ar draws pob agwedd ar y Coleg i gael mynediad at wybodaeth berthnasol a rhannu dysgu.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn fan i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr.
Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych yn cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), fe’ch cyflogir gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch ag Iestyn.henson@rwcmd.ac.uk
Bydd cyflogaeth ar gyfer y swydd hon yn dechrau ym mis Hydref 2022