Mae ein cydweithwyr lletygarwch yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac rydym am benodi Goruchwylydd Arlwyo arall i ymuno â’n tîm.
Mae ein Goruchwylwyr Arlwyo yn sicrhau bod safonau gweithredol yn cael eu cynnal a bod timau bach yn cael eu goruchwylio i ddarparu gwasanaethau arlwyo a bar dyddiol sy’n effeithlon ac o safon uchel i’n myfyrwyr, ymwelwyr, artistiaid a staff.
Rydym hefyd yn croesawu cynulleidfaoedd a gwesteion i amrywiaeth cyffrous o ddigwyddiadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys perfformiadau, seremonïau graddio, derbyniadau arbennig, priodasau, sesiynau ffilmio, ymweliadau brenhinol, digwyddiadau ciniawa a chynadleddau. Mae sicrhau y bodlonir disgwyliadau cwsmeriaid a bod safonau gweithredol yn cael eu cynnal gan ein tîm arlwyo yn ganolog i lwyddiant y rhain.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn fan i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol o gymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Mae hon yn rôl llawn amser barhaol, yn gweithio 37 awr yr wythnos. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion gan gynnwys cynllun pensiwn ardderchog, hawl gwyliau blynyddol hael. Rydym yn gweithredu system weithio hyblyg ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer goramser. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.
Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych yn cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), fe’ch cyflogir gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Neil Piper ([email protected]).