Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar berfformio arloesol i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, cynllunwyr golygfeydd a rheolwyr yn y celfyddydau mwyaf dawnus o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd a bydd yn cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad tirnod trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barc dinesig godidog sydd ond taith 5 munud ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da wedi’i sefydlu ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau oll.
Gyda hanes nodedig o 70 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys cael ei raddio’n ysgol ddrama orau’r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian nifer o weithiau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg, dros y degawd diwethaf, wedi sefydlu ei hun yn sefydliad diwylliannol pwysig yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â diwydiant, a rhaglen brysur o ddigwyddiadau. Mae’r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol yn y diwydiant.
Mae ein henw da wedi’i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein gweithwyr i ddatblygu’r lefel uchaf o ddoniau a sgiliau. Rydym yn fan cynhwysol i bawb ac yn gymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu amrywiaeth. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol o gymdeithas. Mae pobl o gymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd, y rheini sy’n uniaethu’n anabl ac unigolion niwrowahanol a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.Rydym yn chwilio am Oruchwylydd Arlwyo brwdfrydig ac effeithlon i ymuno â’n dau Arweinydd Tîm Arlwyo presennol er mwyn arwain aelodau ein tîm arlwyo blaen tŷ i ddarparu gwasanaethau arlwyo a bar o ansawdd uchel i’n cynulleidfaoedd ac ymwelwyr, ein cymuned o staff a myfyrwyr, mynychwyr cynadleddau a gwesteion sy’n ciniawa.
Mae sgiliau parthed y Gymraeg yn ddymunol.Rydym yn cynnig nifer o fuddiannau i weithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac rydym yn gweithredu system weithio hyblyg
Os ydych yn ymgeisydd allanol llwyddiannus ar gyfer y swydd hon, fe’ch cyflogir gan Wasanaethau Proffesiynol a Chefnogaeth Cyfyngedig, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd mewnol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â janet.smith@rwcmd.ac.uk.