Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar berfformio arloesol i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, cynllunwyr golygfeydd a rheolwyr yn y celfyddydau mwyaf dawnus o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd a bydd yn cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad tirnod trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barc dinesig godidog sydd ond taith 5 munud ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da wedi’i sefydlu ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau oll.
Gyda hanes nodedig o 70 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys cael ei raddio’n ysgol ddrama orau’r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian nifer o weithiau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg, dros y degawd diwethaf, wedi sefydlu ei hun yn sefydliad diwylliannol pwysig yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â diwydiant, a rhaglen brysur o ddigwyddiadau. Mae’r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol yn y diwydiant.
Mae ein henw da wedi’i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein cyflogeion i ddatblygu’r lefel uchaf o ddoniau a sgiliau mewn man sy’n gynhwysol i bawb ac o fewn cymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu amrywiaeth. Tanategir ein hamgylchedd gweithio, ein diwylliant a’n gwerthoedd drwy ganolbwyntio ar ein strategaethau a’n cynllun gweithredu a gytunwyd ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan gwmpasu’n gynhwysfawr recriwtio myfyrwyr a staff, cwricwlwm ac addysgeg, rhaglennu creadigol a sut rydym yn ymgysylltu’n rhagweithiol i feithrin perthynas â chymunedau amrywiol yn lleol, leded Cymru ac yn rhyngwladol. Wedi eich lleoli yng Nghaerdydd, mae CBCDC yn chwilio am unigolyn egnïol a phrofiadol o’r radd flaenaf i wneud cyfraniad mawr i ddyfodol y Coleg.
Mae’r swydd hon yn un 0.6 FTE am gyfnod penodol o 1 flwyddyn.
Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac rydym yn gweithredu system weithio hyblyg.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â Jonathan Munby (Cyfarwyddwr Perfformio – Drama) Jonathan.munby@rwcmd.ac.uk