Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc, Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau gweithle. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn chwilio am diwtor llawn amser i ddysgu amserlen llawn o wersi gan gynnwys 2 noson ac i ymuno â thîm o diwtoriaid talentog a brwdfrydig. Cynhelir y dosbarthiadau mewn lleoliadau amrywiol ar draws rhanbarth Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf a Merthyr ond yn sgil COVID-19 darperir y rhan fwyaf o’r gwersi ar lein.
Disgwylir i ddeiliaid y swydd weithio’n drefnus, meddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau technoleg gwybodaeth effeithiol a meddu ar gymhwyster dysgu.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: catherine.stephens@decymru.ac.uk
The ability to speak Welsh is essential for this role.