Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar berfformio arloesol i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, cynllunwyr golygfeydd a rheolwyr yn y celfyddydau mwyaf dawnus o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd a bydd yn cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad tirnod trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barc dinesig godidog sydd ond taith 5 munud ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da wedi’i sefydlu ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau oll.
Gyda hanes nodedig o 70 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys cael ei raddio’n ysgol ddrama orau’r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian nifer o weithiau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg, dros y degawd diwethaf, wedi sefydlu ei hun yn sefydliad diwylliannol pwysig yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â diwydiant, a rhaglen brysur o ddigwyddiadau. Mae’r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol yn y diwydiant.
Rydym yn fan cynhwysol i bawb a chymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu gwahaniaethau. Mae ein henw da wedi’i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein cyflogeion i ddatblygu’r lefel uchaf o ddoniau a sgiliau.
Yn ddiweddar cymeradwyodd y Bwrdd strategaeth ariannol wedi’i diweddaru ar gyfer y Coleg am y 5 mlynedd nesaf sy’n cynnwys cynigion i fuddsoddi er mwyn sicrhau twf incwm yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod gennym nawr gyfle cyffrous ar gyfer Partner Busnes Cyllid i weithio gyda ni i gyflawni’r cynlluniau hyn yn gyflym a gyda chadernid ariannol.
Mae hon yn swydd llawn amser, barhaol.
Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac rydym yn gweithredu system weithio hyblyg.
Os ydych yn ymgeisydd allanol llwyddiannus ar gyfer y swydd hon, fe’ch cyflogir gan Wasanaethau Proffesiynol a Chefnogaeth Cyfyngedig, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd mewnol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan eich cyflogwr Grwp Prifysgol De Cymru presennol.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â mark.davies@rwcmd.ac.uk
Cyfweliadau: 2 neu 3 Medi