Y swydd:
Mae’r Partner Marchnata ac Ymgysylltu – Recriwtio Myfyrwyr yn hyrwyddo dull rhagweithiol o recriwtio myfyrwyr, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar farchnad y DU. Gan weithio fel rhan o’r tîm Ymgysylltu Strategol yn yr adran Materion Allanol, byddwch hefyd yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill i gyflawni gweledigaeth a strategaeth y Coleg.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae’r Partner Marchnata ac Ymgysylltu – Recriwtio Myfyrwyr yn atebol i’r Pennaeth Ymgysylltu Strategol. Mae’r swydd hon yn gweithio ar draws pob agwedd ar ryng-gysylltiad y Coleg â darpar fyfyrwyr, boed hynny mewn ysgolion, colegau neu sefydliadau partner eraill. Swydd “ymarferol” yw hon, a bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddefnyddio dull gweithredu wedi’i flaenoriaethu sy’n seiliedig ar brosiectau. Bydd yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ac yn cael ei gefnogi gan ymgyrchoedd a digwyddiadau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd.
Gwybodaeth am y Coleg:
Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob cwr o’r byd. Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o gerddorion, actorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr celfyddydau o fwy na 30 o wledydd. Mae doniau a photensial aruthrol ein myfyrwyr yn gysylltiedig ag addysgu rhagorol a chysylltiadau dihafal yn y diwydiant, er mwyn gwireddu breuddwydion. Mae cydweithio ac uchelgais creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Mae ein myfyrwyr yn cael eu trochi mewn amgylchedd gweithredol o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Yn gartref i rai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, mae’r Coleg yn rhedeg canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen o berfformiadau a’n gweithwyr proffesiynol o safon fyd-eang yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel y gallant wthio ffiniau newydd, gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, a mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Rydym yn cynnig nifer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl gwyliau blynyddol hael. Mae gennym system weithio hyblyg ac rydym yn cynnig cyfleoedd i weithio oriau ychwanegol. Rhagor o wybodaeth am y manteision o weithio gyda ni.
Os ydych chi’n ymgeisydd allanol llwyddiannus ar gyfer y swydd hon, byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited – is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru – sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Colegau. Os ydych chi’n ymgeisydd mewnol, byddwch yn dal i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Prifysgol De Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â kara.bassett@rwcmd.ac.uk