Bydd y Technegydd Lleoliad yn cynorthwyo’r Rheolwr Gweithrediadau Technegol er mwyn sicrhau cefnogaeth dechnegol o ansawdd uchel ar gyfer pob digwyddiad a gweithgaredd mewnol ac allanol o fewn cyd-destun sefydliad hyfforddiant celfyddydau perfformio galwedigaethol cenedlaethol a lleoliad celfyddydau sy’n croesawu. Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o weithio mewn lleoliad celfyddydau amlddisgyblaeth proffesiynol ac amgylchedd perfformio cerddoriaeth glasurol proffesiynol.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar berfformio arloesol i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, cynllunwyr golygfeydd a rheolwyr yn y celfyddydau mwyaf dawnus o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd a bydd yn cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad tirnod trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barc dinesig godidog sydd ond taith 5 munud ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da wedi’i sefydlu ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau oll.
Gyda hanes nodedig o 70 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys cael ei raddio’n ysgol ddrama orau’r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian nifer o weithiau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg, dros y degawd diwethaf, wedi sefydlu ei hun yn sefydliad diwylliannol pwysig yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â diwydiant, a rhaglen brysur o ddigwyddiadau. Mae’r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol yn y diwydiant.
Mae ein henw da wedi’i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein gweithwyr i ddatblygu’r lefel uchaf o ddoniau a sgiliau. Rydym yn fan cynhwysol i bawb ac yn gymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu amrywiaeth. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol o gymdeithas. Mae pobl o gymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd, y rheini sy’n uniaethu’n anabl ac unigolion niwrowahanol a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Swydd llawn amser barhaol yw hon, gydag oriau gwaith afreolaidd.
Rydym yn cynnig nifer o fuddiannau i weithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac rydym yn gweithredu system weithio hyblyg.
Os ydych yn ymgeisydd allanol llwyddiannus ar gyfer y swydd hon, fe’ch cyflogir gan Wasanaethau Proffesiynol a Chefnogaeth Cyfyngedig, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd mewnol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan eich cyflogwr Grŵp Prifysgol De Cymru presennol.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Leigh Kirk-Harris (leigh.kirk-harris@rwcmd.ac.uk).