Y rôl:
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn chwilio am Ddarlithydd Llais newydd i gynorthwyo’r Pennaeth Llais i drefnu ac addysgu astudiaethau llais a gwaith testun ar bob lefel o’i raglenni actio a theatr gerddorol. Byddwch yn ymuno â thîm profiadol sy’n flaengar ac yn rhoi pwys arbennig ar ddatblygiad llwyddiannus myfyrwyr i gyflogaeth. Bydd ymarferwyr sydd ag ymroddiad ac angerdd am addysgu yn canfod amgylchedd gweithio cydweithredol sy’n gosod myfyrwyr wrth galon ei ymarfer.
Ynglŷn â’r Coleg:
Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â’r diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr.
Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae CBCDC yn chwilio am unigolyn egnïol a phrofiadol o’r radd flaenaf, i wneud cyfraniad mawr i ddyfodol y Coleg.
Mae’r Adran Actio, a arweinir gan y Cyfarwyddwr Perfformio (Drama) Jonathan Munby, yn cwmpasu cyrsiau gradd ac ôl-radd mewn Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrin a Radio, a Theatr Gerddorol. Mae gan ei hyfforddiant enw da yn y diwydiant ac mae’n cyflogi gweithwyr proffesiynol uchel eu parch i gynhyrchu gwaith ar gyfer sain, sgrin, neu lwyfan sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant a’r byd y mae’n rhan ohono.
Mae’r swydd hon yn un barhaol llawn amser. Yr oriau gwaith yw’r rheini sy’n ofynnol i gyflawni anghenion y swydd. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol a gwyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.
Cyfweliadau - 6 Ionawr 2023
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch ag Alice White (Pennaeth Llais) alice.white@rwcmd.ac.uk