Mae'r gallu i ysgrifennu a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae’r tîm ‘Marchnata Digidol’ yn rhan o’r adran Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr (MSR) ym Mhrifysgol De Cymru. Gan reoli a chreu cynnwys ar gyfer gwefan y Brifysgol, cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau marchnata ar-lein, rydym yn cefnogi cyfrifoldebau trosfwaol yr adran i yrru recriwtio myfyrwyr newydd.
Rydym yn chwilio am ysgrifennwr copi talentog, sydd â phrofiad o ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg, i ymuno â'n tîm a'n helpu i greu cynnwys newydd, gafaelgar ac addysgiadol i'n cynulleidfaoedd myfyrwyr, academaidd a chyflogwyr.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys:
Mae hwn yn gyfle gwych i ysgrifennwr copi sydd â phrofiad o ysgrifennu ar gyfer y we ac sydd eisiau ehangu ei set sgiliau ac sydd ag awydd i weithio ym maes marchnata digidol. Byddwch yn cael eich dysgu sut i greu, golygu, a chyhoeddi tudalennau gwefan, a chael cyfle i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd marchnata cynnwys newydd a chyffrous dan arweiniad myfyrwyr, gan bwyso ar brofiad ein tîm a chynorthwyo i greu fideos, graffeg, ffotograffiaeth, ac ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol.
Fel siaradwr Cymraeg a Saesneg sy'n gallu ysgrifennu a chyfieithu i'r ddwy iaith i safon uchel, bydd gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol o ysgrifennu copi creadigol sy'n cyseinio’n glir â’r gynulleidfa rydych chi'n siarad â hi. Gallai hyn gynnwys blogio, datganiadau i'r wasg, copi gwefan, cylchgronau, sgriptiau, pamffledi neu'r cyfryngau cymdeithasol, ond nid yw'n gyfyngedig iddynt.
Yn anad dim, rydym yn chwilio am feddylfryd cadarnhaol a meddyliwr creadigol. Os ydych chi'n barod i feddwl y tu allan i'r bocs, arbrofi'n weithredol â ffyrdd newydd o ennyn diddordeb darpar fyfyrwyr trwy greu cynnwys a bod â'r hyder i gyd-fynd â syniadau newydd, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Bydd y rôl hon yn gweithredu o dan ein polisi gweithio hyblyg, yn unol â gofynion Prifysgol De Cymru. Mae'r dull hwn yn caniatáu i weithwyr weithio o'r swyddfa ac o'u cartref. Pan yn y swyddfa, eich lleoliad fydd ein campws Pontypridd, er y bydd gofyn i chi deithio i'n campysau Caerdydd a Chasnewydd a gweithio ohonynt, ochr yn ochr â lleoliadau allanol.
Mae hon yn swydd amser llawn, parhaol.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â msradmin@southwales.ac.uk
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a'r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych chi'n cael eich cyflogi ar hyn o bryd gan PSS Ltd), byddwch chi'n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Brifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau. Os ydych chi'n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch chi'n parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.