Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru gan ddarparu hyfforddiant arloesol sy’n seiliedig ar berfformio i dros 800 o'r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr setiau a rheolwyr celfyddydol mwyaf talentog o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o ganolfannau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, gan gynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi’i leoli mewn adeilad arbennig yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barcdir dinesig hardd, dim ond 5 munud ar droed i ganol y ddinas. Mae ei enw da yn seiliedig ar ragoriaeth, ac mae'n denu'r talentau gorau.
Gyda hanes nodedig o hyfforddiant proffesiynol mewn Cerdd a Drama ers 70 mlynedd, gan gynnwys cael ei restru ar y brig o blith ysgolion drama’r DU yn rhestrau cynghrair y Guardian sawl gwaith yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg wedi sefydlu ei hun yn ystod y degawd diwethaf fel sefydliad diwylliannol o bwys yng Nghymru, gydag adeiladau gwych, partneriaethau arloesol o fewn y diwydiant a rhaglen brysur o ddigwyddiadau. Mae’r coleg yn meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy’n barod i wynebu’r diwydiant ar gyfer eu gyrfaoedd rhyngwladol.
Mae ein henw da wedi'i adeiladu ar ragoriaeth drwy gefnogi ein gweithwyr i ddatblygu'r lefel uchaf o dalentau a sgiliau mewn gofod cynhwysol i bawb ac o fewn cymuned sy'n ffynnu ar barch ac yn dathlu gwahaniaeth. Yn sail i'n hamgylchedd gwaith, ein diwylliant a'n gwerthoedd, mae pwyslais mawr ar ein strategaeth a'n cynllun gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan gynnwys proses gynhwysfawr i recriwtio myfyrwyr a staff, cwricwlwm ac addysgeg, rhaglennu creadigol, a sut rydym yn ymgysylltu'n rhagweithiol i ddatblygu perthnasoedd gyda chymunedau amrywiol yn lleol, ar draws Cymru ac yn rhyngwladol.
Strategaeth gynhyrchu:
Mae gwaith cynhyrchu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhoi perfformio ac arddangos proffesiynol wrth wraidd ei holl hyfforddiant, yn sicrhau proffil uchel ar gyfer y gwaith hwn ac yn datblygu cynulleidfa deyrngar, flynyddol o 55,000 yn ymgysylltu â phopeth y mae cymuned artistig y Coleg (y mwyaf yng Nghymru) yn ei gynnig. Mae cynyrchiadau’r coleg yn cynnwys amrywiaeth o berfformiadau, cyngherddau, arddangosfeydd, dangosiadau a digwyddiadau ar draws holl adrannau’r Coleg ar gyfer amrywiaeth o ddibenion. Mae yna amrywiaeth enfawr sydd hefyd yn ymestyn i fentrau sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr o fewn rhaglen REPCo ffyniannus, Coleg ar daith a gwaith allgymorth cymunedol, digwyddiadau ar draws y Coleg cyfan a hurio allanol.
Yn ddiweddar, mae Bwrdd y Coleg wedi cymeradwyo strategaeth ariannol ddiwygiedig ar gyfer y 5 mlynedd nesaf sy'n cynnwys cynigion i fuddsoddi yn y broses o gyflwyno cynyrchiadau. Yn allweddol i hyn yw’r broses o greu’r uwch rôl newydd hon drwy uno a chefnogi a datblygu'r gwaith sy’n bodoli ar hyn o bryd o fewn sawl adran yn y Coleg ar draws yr Adrannau Academaidd ac yn ymestyn i'r adrannau Gweithdy, Gweithrediadau Technegol, Gwasanaethau Academaidd a Rhaglennu Creadigol.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â mark.davies@rwcmd.ac.uk
Dyddiad cyfweliad: 2 neu 3 Medi