Mae'r Coleg Merthyr Tudful yn dymuno penodi Swyddog Lleoliadau Profiad Gwaith i gefnogi'r sefydliad trwy drefnu i fetio iechyd a diogelwch a darparu lleoliadau profiad gwaith, teithiau, digwyddiadau ac ymweliadau llwyddiannus ar gyfer dysgwyr coleg.
Gan weithio fel rhan o dîm Iechyd a Diogelwch y coleg, byddai deiliad llwyddiannus y swydd yn gyfrifol am gysylltu â Thîm Cyflogaeth a staff academaidd y coleg i gynllunio, trefnu a chynnal y broses fetio iechyd a diogelwch briodol ar gyfer pob profiad gwaith coleg a theithiau a digwyddiadau cyflogadwyedd; gan sicrhau bod y rhain yn cael eu harchwilio a'u monitro yn unol â'r safonau Iechyd a Diogelwch.
Mae'r swydd hon yn cael ei hariannu'n rhannol drwy Gyllid Swyddfa Cyflogaeth Llywodraeth Cymru, i gefnogi'r ymrwymiad i Warant Pobl Ifanc (YPG), gan helpu i sicrhau bod pawb o dan 25 oed, sy'n byw yng Nghymru, yn cael cymorth i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, a helpu i fynd i mewn i waith neu ddod yn hunangyflogedig.
Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais yn unig : 05/04/2024