Rydym yn chwilio am Ddarlithydd mewn Theatr Dechnegol am gyfnod penodol o flwyddyn. Gan weithio ochr yn ochr ag Arweinydd y Cwrs ‘Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol’, bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel ar dechnegol a chynyrchiadau llwyfan, a hynny mewn modd diogel, effeithlon ac effeithiol. Bydd unigolyn rhagweithiol a chreadigol yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd dysgu o'r ansawdd uchaf posibl, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol, MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau a gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol ddatblygu eu potensial yn eu maes arbenigol.
Mae’r Adran Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol, dan arweiniad Daz James, Arweinydd y Cwrs, yn cwmpasu cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol, Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau, a gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddenu at weledigaeth, gwerthoedd a gwaith y Coleg. Mae eu gwaith gorau yn digwydd ar gyflymder mewn sefydliad uchelgeisiol a hyderus, a byddant yn wydn hefyd – gan droi rhwystrau a heriau yn gamau gweithredu pendant a phwrpasol.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lle i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiadau bywyd. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob cwr o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr celfyddydau o fwy na 30 o wledydd. Mae doniau a photensial aruthrol ein myfyrwyr, ac addysgu rhagorol a chysylltiadau heb eu tebyg yn y diwydiant, yn dod ynghyd i wireddu breuddwydion. Mae uchelgeisiau creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Mae ein myfyrwyr yn cael eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Mae’r Coleg yn gartref i rai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, mae’n rhedeg canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen o berfformiadau a’n gweithwyr proffesiynol o safon fyd-eang yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel y gallant wthio ffiniau newydd, gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, a mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a’i Diwylliant a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio gyda ni.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â [email protected]