Mae ein cydweithwyr lletygarwch yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac rydym yn awyddus i benodi Goruchwyliwr Caffi Bar i ymuno â’n tîm.
Mae’r Goruchwyliwr Caffi Bar yn sicrhau bod safonau gweithredu’n cael eu cynnal a bod timau bach yn cael eu goruchwylio i ddarparu gwasanaethau caffi a bar effeithlon o ansawdd uchel yn ystod amrywiaeth cyffrous o ddigwyddiadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys perfformiadau, seremonïau graddio, derbyniadau VIP, priodasau, sesiynau ffilmio, ymweliadau brenhinol, ciniawa moethus a chynadleddau. Byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf i'r cyhoedd, ein staff, ein myfyrwyr a'n rhanddeiliaid ehangach. Mae sicrhau bod disgwyliadau cwsmeriaid a safonau gweithredu yn cael eu bodloni gan dîm y bar yn ganolog i lwyddiant y swydd hon.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lle i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiadau bywyd. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob cwr o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr celfyddydau o fwy na 30 o wledydd. Mae doniau a photensial aruthrol ein myfyrwyr ac addysgu rhagorol a chysylltiadau dihafal yn y diwydiant yn asio â’i gilydd i wireddu breuddwydion. Mae cydweithio ac uchelgeisiau creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Mae ein myfyrwyr yn cael eu trochi mewn amgylchedd diwydiant gweithredol o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Yn gartref i rai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, mae’r Coleg yn rhedeg canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen berfformiadau a’n gweithwyr proffesiynol o safon fyd-eang yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel y gallant wthio ffiniau newydd, gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, a mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym ni wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg yn cael eu tangynrychioli, felly rydyn ni'n awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Mae hon yn swydd barhaol, yn gweithio 37 awr yr wythnos, gan gynnwys rhywfaint o waith min nos ac ar benwythnosau. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl gwyliau blynyddol hael. Mae gennym system weithio hyblyg ac rydym yn cynnig cyfleoedd i weithio oriau ychwanegol. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni: https://tinyurl.com/PSSynCBCDC
Os ydych chi’n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych chi’n cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol ac i Golegau. Os ydych chi’n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â [email protected]