Goruchwyliwr Adeiladu Golygfeydd
Cyflog cychwynnol £27,979 - £32,332 y flwyddyn Gradd D
Bydd y Goruchwyliwr Adeiladu Golygfeydd yn gweithio fel rhan o dîm yng ngweithdy Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gan wireddu’r gwaith o adeiladu Setiau ar draws proffil cynhyrchu’r Coleg yn yr adrannau Cerddoriaeth a Drama. Mae’r Coleg yn chwilio am adeiladwr gwybodus sy’n awyddus i weithio ochr yn ochr â myfyrwyr ar draws yr adrannau Dylunio a Rheoli Llwyfan, a’u goruchwylio. Mae’r swydd hon yn chwilio am batrwm gweithio hyblyg sy’n addas i anghenion y proffil cynhyrchu.
Bydd y swydd hon, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich amrywiaeth o sgiliau adeiladu, megis sgiliau golygfaol traddodiadol yn ogystal â sgiliau dylunio a saernïo â chymorth cyfrifiadur. Torrwr laser/Peiriant CNC/Peiriannau argraffu 3D.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn darparu hyfforddiant arloesol sy’n seiliedig ar berfformiad i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr golygfeydd a rheolwyr celfyddydau mwyaf talentog o fwy na 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, sy’n denu cynulleidfaoedd o dros 60,000 o bobl y flwyddyn. Mae mewn adeilad trawiadol yng nghanol Caerdydd, gyda pharcdir trefol y tu ôl iddo, sydd 5 munud yn unig ar droed o ganol y ddinas.
Gyda hanes unigryw a nodedig o 75 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol mewn Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys bod yn ysgol ddrama orau'r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian ar sawl achlysur, mae'r Coleg yn y degawd diwethaf wedi sefydlu ei hun fel sefydliad diwylliannol mawr yng Nghymru - gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â’r diwydiant, a rhaglen ddigwyddiadau amrywiol. Mae'r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy'n barod ar gyfer y diwydiant a gyrfaoedd rhyngwladol.
Mae ein henw da wedi cael ei seilio ar ragoriaeth drwy gefnogi ein gweithwyr i ddatblygu’r lefel uchaf o dalentau a sgiliau. Rydym yn lle cynhwysol i bawb ac yn gymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu gwahaniaeth. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas.
Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a bydd y Coleg yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Os ydych chi’n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych chi’n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Rhian.jones@rwcmd.ac.uk neu will.goad@rwcmd.ac.uk
Cyfweliadau: yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 23 Medi