Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dymuno penodi Rheolwr Iechyd a Diogelwch profiadol ac amryddawn i gynorthwyo’r Pennaeth Gweithrediadau i ddarparu arweiniad, cefnogaeth a chymorth proffesiynol i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch gweithredol ledled y coleg.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru. Mae’n darparu hyfforddiant arloesol yn y byd perfformio i fwy na 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr golygfeydd a rheolwyr celfyddydau mwyaf talentog o fwy na 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, sy’n cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae mewn adeilad trawiadol yng nghanol Caerdydd, gyda pharcdir trefol y tu ôl iddo, 5 munud yn unig ar droed o ganol y ddinas. Mae ei enw da yn seiliedig ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau.
Mae cyfleusterau perfformio a digwyddiadau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnwys neuadd gyngerdd â 400 o seddi, theatr â bwa proseniwm â 180 o seddi, dau fan perfformio blwch du y gellir eu haddasu’n llawn, a nifer o ystafelloedd cyfarfod, dysgu ac ymarfer. Ar y safle yn Llanisien ceir gweithdy adeiladu golygfeydd llawn a chyfleusterau celf golygfeydd. Cyn bo hir, byddwn yn dechrau ar waith mawr i adfer yr Hen Lyfrgell yng nghanol Caerdydd i greu mannau perfformio a cherddoriaeth pwrpasol.
Mae’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch yn rhan o’r adran Gweithrediadau yn y coleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweiniad, cefnogaeth a chymorth proffesiynol i gydweithwyr drwy ddatblygu a chydlynu trefniadau rheoli iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a’i Diwylliant a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Mae hon yn swydd ran amser 0.6 (cyfwerth ag amser llawn), ar gontract cyfnod penodol o flwyddyn. Efallai y byddwn yn gallu bod yn hyblyg gyda phatrwm gwaith yr ymgeisydd llwyddiannus. Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni: https://tinyurl.com/PSSynCBCDC
Os byddwch chi’n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch chi'n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, sef is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru ac sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych chi’n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â [email protected].
Cysylltwch â’r Pennaeth Gweithrediadau i gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon – [email protected].
Cyfweliadau: